Twm Morys
Gethin Dob Electrics
*************
Anghofia i byth tra byddaf y diwrnodiau cyn y Diwrnod Mawr, bum cant dwy ar bymtheg a phedwar ugain o flynyddoedd a dau ddiwrnod union ers coroni Owain Glyndwr yn Dywysog Cymru. Bu llawer arwydd ac argoel, a darogan a phroffwydoliaeth. Ar lanw mawr tywyll, mi landiodd crwban du chwe throedfedd o hyd, a saith o ben rhwyf i ben rhwyf, ar draeth Ynysgain Fawr wrth geg afon Dwyfor. Mi fum i'n sefyll efo Iwan Llwyd a Rod Richards y tu allan i gastell Caernarfon, fin nos yn y glaw mawr. 'Mae hi wedi bod yn ddiwrnod gwael!' meddai Rod Richards o dan sgafell ei ymbarel. 'Mae hi wedi bod yn saith gan mlynedd wael...' Ond ddalltodd o mo hynny. Mi glymais ddraig goch wrth erial fy nghar, a llinyn i'w chadw hi ar i fyny, a mynd felly yn y bore o Eifionydd, drwy Feirionnydd, a darn o Faldwyn, nes cyrraedd Aberystwyth yng Ngheredigion. Mi ganwyd cyrn, mi fflachiwyd goleuadau. Dim ond un ymateb cas ges i, sef deufys drwy ffenest lorri o Nuneaton. Mi es i mewn i dafarn y Cwps, a threulio'r diwrnod hwnnw drwy gerddi a chyfeddach, a phan oedd yn amserach mynd i gysgu, aros drwy'r nos...
A phan oedd hi ddua', a llawer yn gwangalonni, a rhai'n gweld hynt y gwynt a'r glaw, ac yn clywed bachau'r drws ar Aberhenfelen, a swn y pethau diwethaf, a dynion yn eu hoed a'u hamser yn wylo fel plant mewn corneli, neu yn bw hwhwman yn ôl a blaen, a minnau wedi gwneud englyn am weddill ein bywyd ni:
Hyd oes hir, peidio â sôn -'run gair byth,
Byth am ein gobeithion.
Mynd yn awr i lawr y lôn
Anorfod at lan Irfon ...
roedd '...
|
|
|
|
|
|
|
|
|